Mae gan Goleg y Cymoedd feithrinfeydd dydd ar gampws Nantgarw a Ystrad Mynach.
Mae Meithrinfa Acorns yn cael ei rhedeg yn breifat mewn partneriaeth gyda Choleg y Cymoedd ar Gampws Nantgarw.
Mae gan y feithrinfa sydd â 60 o leoedd ardd fawr gydag ardaloedd chwarae agored a dan do er mwyn sicrhau bod plant yn gallu manteisio ar chwarae yn yr awyr agored, waeth beth fo’r tywydd. Tu mewn, mae digon o le yn yr ystafelloedd chwarae helaeth i’r plant gael mannau tawel, i ddefnyddio’u dychymyg ac i archwilio a chwarae gyda theganau ac offer o’r radd flaenaf i’w hysgogi.
Mae Acorns Nantgarw ar agor rhwng 8am a 6pm o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, yn gofalu am blant rhwng 6 wythnos a 5 oed. Croeso i chi ymweld â’r feithrinfa ar unrhyw adeg neu ffonio ar: (029) 20 382009 am ragor o wybodaeth.
Cyfeiriad y wefan: www.acornsnurseries.co.uk
Ffôn: (029) 20 382009
Gyda gofid, ac ar ôl ystyried ac ymgynghori’n ofalus, rydyn ni’n cyhoeddi y bydd y feithrinfa ar gampws Ystrad Mynach yn cau o ddiwedd y flwyddyn academaidd hon (31 Gorffennaf 2024). Cyn gwneud y penderfyniad hwn, buom yn archwilio modelau gwahanol gyda rheolwyr y feithrinfa i benderfynu a allem fabwysiadu agwedd fwy hyblyg at y ddarpariaeth.
Gyda’r gostyngiad yn y galw am leoedd a chostau cynyddol, daethom i’r casgliad nad yw bellach yn ariannol hyfyw i barhau i gynnal y colledion ar gyfer gwasanaeth di-graidd.
Gall dysgwyr cymwys barhau i gael cymorth ariannol ar gyfer gofal plant mewn darpariaeth amgen. Cysylltwch â Gwasanaethau Dysgwyr a Champws ar 01443 816888 neu anfonwch e-bost at enquiries@cymoedd.ac.uk am ragor o wybodaeth.
Roedd yr adborth a gawsom yn ystod y broses ymgynghori yn pwysleisio gwerth y coleg a’r gymuned ehangach i’r ddarpariaeth a’r gwerthfawrogiad ohoni. Rydyn ni’n cytuno’n llwyr ac yn ddiolchgar i’r staff ymroddedig am eu hymrwymiad ac am y gofal plant o ansawdd uchel y maent wedi’i ddarparu dros y 29 mlynedd diwethaf.
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR